Download the Toolkit: Pumpkin 2020 Review - Nov 2020 - Welsh.pdf
Roedd dechrau tymor 2020 yn anodd. Fe wnaeth rhew hwyr tan yr wythnos gyntaf ym mis Mai a phriddoedd sych arwain at oedi cyn plannu, ond yna fe wnaeth glawogydd trwm oedi plannu ymhellach. Ar raddfa fach gellir defnyddio plannu o dan blastig i wella mynediad a rheoli chwyn yn gynnar yn y tymor, ond gall fod yn anymarferol ar raddfa fawr heb beiriannau addas. Yn ogystal â chadw lleithder yn y pridd heb iddo fynd yn ddyfrlawn, bydd hyn yn cynhesu'r pridd ac yn gwella cyfraddau twf yn gynnar yn y tymor. Rhoddodd amodau da ar draws yr haf ym mis Gorffennaf ac Awst dwf cryf, ond arhosodd llawer o gnydau yn llystyfol a chynhyrchu blodau benywaidd yn hwyrach na'r arfer. Arweiniodd hyn at aeddfedu hwyrach na’r arfer, er bod mwyafrif y ffrwythau wedi cyflawni lliw llawn mewn pryd ar gyfer gwerthiannau'r hydref.
Er gwaethaf heriau COVID, bu llawer iawn o ddiddordeb gan gwsmeriaid eleni wrth i boblogrwydd pwmpenni Calan Gaeaf barhau i dyfu. Roedd cyfryngau cymdeithasol yn offeryn hanfodol wrth gyfathrebu â chwsmeriaid. Roedd yn rhaid i lawer o dyfwyr weithredu system archebu ymlaen llaw i reoli llif cwsmeriaid drwy eu safle. Gallai hyn fod yn seiliedig ar gyfnod amser penodedig, neu ar amser cyrraedd heb gyfyngu ar amser ar y safle. Roedd codi tâl ymlaen llaw yn fodd o sicrhau nad oedd slotiau a archebwyd yn cael eu gwastraffu, ond gellid cysylltu'r tâl â swm y gellid ei ad-dalu wrth brynu pwmpen. O ystyried bod grwpiau'n debygol o fod yn deuluoedd, mae’n bosibl y byddai'n haws caniatáu archebu a chodi tâl yn seiliedig ar ofod car yn hytrach na fesul unigolyn. Yn dibynnu ar y gwasanaeth a ddefnyddir, mae’n bosibl y bydd angen i chi godi ffi archebu, ond gallwch addasu eich prisiau i ddarparu ar gyfer hyn. Er bod covid wedi creu'r angen am y dulliau hyn o farchnata, mae llawer o dyfwyr yn canfod eu bod wedi lleddfu rheolaeth cwsmeriaid ac y gallent fod o fudd yn y blynyddoedd a ddaw. Wrth brisio ffrwythau mae angen i chi feddwl am ffyrdd o sicrhau cysondeb mewn prisiau - gall rhai tyfwyr godi tâl yn ôl pwysau neu yn ôl maint, a gall arddangosfeydd o bwmpenni a ddewiswyd ymlaen llaw roi syniad o bris i gwsmeriaid cyn casglu ffrwythau. Mae ffrwythau llai fel munchkins wedi bod yn arbennig o boblogaidd eleni, gan werthu am £1 - £1.50 y ffrwyth o'i gymharu â £2-4 am ffrwythau canolig (3-5kg), £5-8 am rai mawr (5-8kg) a £10 am rai enfawr dros 10kg.
Nid yw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau cynllunio ar gyfer y tymor nesaf, yn enwedig o ran archebu hadau. Mae amrywiaeth eang o gyltifarau ar gael, a cheir crynodeb isod. Wrth gynllunio cyltifarau, cynlluniwch yr hyn sydd angen i chi ei gyfateb â gofynion cwsmeriaid, ond ystyriwch eich tir hefyd: er enghraifft, mae'n bosibl y bydd Racer yn perfformio'n well ar safleoedd arfordirol agored o'i gymharu â Harvest Moon. O ran nifer yr hadau, ystyriwch 10,000 i 12,500 o blanhigion fesul hectar, er y gallai pen isaf y raddfa fod yn rhy ychydig ar gyfer safleoedd drilio uniongyrchol. Bydd modiwlau'n cymryd tua 3-4 wythnos dan warchodaeth i gyrraedd aeddfedrwydd, ond bydd angen plannu planhigion wedi eu drilio'n uniongyrchol a phlanhigion modiwl tua'r 20fed o Fai os yw'r tywydd yn ddigon cynnes.
Gallwch bob amser ystyried cnydau amgen i ategu pwmpenni, naill ai i ymestyn y tymor neu ehangu eich darpariaeth i'ch cwsmeriaid. Gall blodau haul, drysfa indrawn neu gasglu eich ŷd eich hun fod yn ddeniadol iawn, er y byddai angen i chi ystyried amserlennu gofalus a dewis amrywiaeth fel bod yr india-corn yn cyd-daro â chyfnodau marchnata tebygol y pwmpenni. Mae’n bosibl na fydd gweithgareddau eraill fel cloddio am datws yn cynnig enillion sylweddol ond gallant wella'r profiad i gwsmeriaid a chynyddu'r amser a dreulir ar y safle, gan gynyddu gwerthiant mewn meysydd eraill fel caffi fferm.
Dadlwythwch y Daflen Gyngor Technegol lawn: Awr Pŵer Pwmpen - Tachwedd
Ymwadiad
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a'r argymhellion yn y nodiadau hyn yn gywir. Dylai’r holl gemegau diogelu cnydau gael eu defnyddio’n unol â’r argymhellion ar y label, a dylid darllen y label cyn chwistrellu. Efallai na fydd rhai o’r plaladdwyr a grybwyllir yn y nodiadau hyn yn cael eu cefnogi gan argymhellion ar labeli ar gyfer eu defnyddio ar gnydau pwmpenni, ond eu bod yn cael eu caniatáu drwy’r Estyniad o Ganiatâd ar gyfer Mân Ddefnydd (EAMU) yn y Deyrnas Unedig o dan y ‘Trefniadau Hirdymor Diwygiedig ar gyfer Ymestyn Defnydd (2002)’. Yn yr achosion hyn, defnyddir y plaladdwr yn ôl risg y defnyddiwr ei hun, ac nid yw Tyfu Cymru yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ddefnydd o’r fath. Mae’r cyfeiriadau at gymeradwyaeth ar labeli ac EAMU ar gyfer defnyddio plaladdwyr ar gnydau pwmpenni yn gywir ar adeg ysgrifennu’r wybodaeth hon. Gall y rhain gael eu newid a gallai cymeradwyaeth gael ei thynnu’n ôl ar unrhyw adeg. Cyfrifoldeb y tyfwr yw gwirio cymeradwyaeth cyn defnyddio plaladdwyr. Os bydd unrhyw amheuaeth, dylai tyfwr geisio cyngor gan gynghorydd sy’n gymwys dan BASIS - mae hyn ar gael yn rhad ac am ddim i dyfwyr cymwys drwy raglen Tyfu Cymru, cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad - mae cyngor dros yr e-bost/ffôn ar gael hefyd.
Have you considered a farm shop, a pop up café, a seasonal events calendar? How about an ‘Insta field’? The demand for photo worthy fields is on the rise, and with careful planning, establishing a pick your own will have the public flocking to your f…
24/02/2021 13:44:27The start of the 2020 season was difficult. Late frosts until the first week in May and dry soils delayed planting, but heavy rains then delayed planting further.
14/12/2020 11:31:10The start of the 2020 season was difficult. Late frosts until the first week in May and dry soils delayed planting, but heavy rains then delayed planting further.
14/12/2020 11:31:10While many of the covid-19 restrictions are being relaxed, it’s likely to continue to pose a challenge for growers for the foreseeable future – especially for those selling directly to customers for whom a high footfall on site is needed to achieve g…
30/09/2020 13:07:45Tyfu Cymru have launched regular Power Hour sessions for members of the Pumpkin Network. This article includes the full technical notes from the latest Power Hour in July.
03/09/2020 13:32:56This baseline study for Tyfu Cymru was conducted by Dr. Amber Wheeler and looks at the opportunities for Welsh Fruit and Vegetable production.
26/06/2020 16:05:34Tyfu Cymru have launched regular Power Hour sessions for members of the Pumpkin Network. These focused sessions are facilitated by Tyfu Cymru together with technical experts and include an update on topical issues based on growers instant needs, and…
25/06/2020 15:05:58You should now be planning the planting for this year’s crop. If you’re new to pumpkins, it’s recommended that you plant transplanted seedlings rather than drilling. You’re just in time to order these from a propagator if you act quickly, and you sho…
28/05/2020 14:02:13The main disease of concern in pumpkin during the early season is powdery mildew, and this can start to be a problem from June onwards, starting with flowering.
28/05/2020 13:50:36How customers pay for their goods is changing - debit card transactions overtook cash in 2017, and these are forecast to represent over half of all transactions by 2024. The move away from cash has also be driven by the increase in contactless card p…
28/05/2020 13:37:30Blossom End Rot (BER) is a particular problem that pumpkin growers face, especially when growing for pick-your-own (PYO) markets.
24/04/2020 09:57:25Part two of our Pick your Own Factsheet focusing on Marketing and Top Technical Tips...
19/03/2020 12:28:00Effective weed control in pumpkin is essential in growing a crop that maximizes its potential.
19/03/2020 10:53:24In our series of industry insights, we provide some background to the market, as well as some top tips on ensuring that your customer experience hits that important 5-star customer rating.
16/12/2019 13:38:55