Download the Toolkit: Ticketing Factsheet - 14.05.2021 - Welsh.pdf
Gall rheoli nifer yr ymwelwyr sy’n dod i’ch safle brofi’n her allweddol wrth redeg busnes pigo eich cynnyrch eich hun ond eto mae’n un sy’n hawdd i’w goresgyn trwy gynllunio.
Yn ogystal â sicrhau’r gallu i gadw pellter cymdeithasol, bydd system archebu yn cynnig nifer o fanteision ychwanegol i sicrhau eich bod yn bodloni eich cwsmeriaid ac yn derbyn yr arian gorau am eich cynnyrch. Er enghraifft, gall rheoli nifer yr ymwelwyr i’ch safle fod yn hanfodol i gynnal profiad da i’r cwsmer trwy sicrhau nad yw eich cyfleusterau (megis meysydd parcio) yn cael eu gorlethu ac er mwyn osgoi’r siom o orfod gwrthod pobl wrth y giât. Gall hyn helpu’n ogystal i gydbwyso cyflenwad a galwad trwy gydweddu nifer yr ymwelwyr i’r cyflenwad o ffrwythau neu bwmpenni aeddfed sydd ar gael yn y caeau ar ddiwrnod penodol.
Tra bod archebu ar-lein ymlaen llaw wedi dod yn fwyfwy cyffredin, bydd rhaid i chi gynnwys negeseuon clir ynglŷn â’r broses archebu, yn enwedig os mai ar-lein yw’r unig ddull o archebu sy’n cael ei gynnig. Argymhellir yn gryf hefyd y dylid codi tâl ar y cwsmer am archebu ymlaen llaw er mwyn lleihau’r risg o bobl yn peidio ag ymddangos ac i’ch helpu i adennill costau’r system archebu. Fodd bynnag, mae llawer o dyfwyr yn defnyddio system cyfnewid sy’n cynnig taleb gwerth pris y tocyn i’r cwsmer y gellir ei defnyddio yn erbyn pris y ffrwythau maen nhw’n eu prynu. Bydd cyfathrebiad clir o’r broses archebu yn helpu i sicrhau bod eich cwsmeriaid yn cael ymweliad hwylus a phleserus i’ch safle.
Gall gosod system gwerthu tocynnau fod yn gyflym ac yn rhwydd, ac er efallai y bydd angen ychydig o gynllunio wythnosol, yn fuan iawn gall hwn ddod yn rhan arferol o redeg eich busnes a bydd yn cydweddu gydag unrhyw wefan gyfredol neu gyfathrebiadau cyfryngau cymdeithasol sydd gennych i ddenu cwsmeriaid. Er y bydd y dull hwn yn ddefnyddiol iawn gyda’r sefyllfa bresennol o gadw pellter cymdeithasol, rydych yn debygol o elwa o fanteision ehangach y system archebu ymlaen llaw i’r fath raddau fel ei bod hi’n werth ei gadw am yr hirdymor.
Mae'r pecyn cymorth hwn yn rhoi trosolwg o sut y gallwch chi gychwyn system archebu ar-lein ar gyfer Pigo eich Hun: Taflen Cyngor Technegol Systemau Archebu Ar-lein ar gyfer Pigo Eich Cynnyrch Eich Hun
Ymwadiad
Gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y wybodaeth a’r argymhellion a roddir yn y nodiadau hyn gyda’r wybodaeth a ddarperir yn gywir adeg ei ysgrifennu. Darperir y deunydd uchod er gwybodaeth yn unig ac nid yw’n cymeradwyo nac yn hyrwyddo’r gwasanaethau a ddisgrifiwyd. Argymhellir bod tyfwyr yn ymchwilio’n llawn i brisiau ac opsiynau o ran gwerthu tocynnau cyn gwneud penderfyniad. Mae mentora datblygu gwefan a busnes ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer tyfwyr cymwys drwy raglen Tyfu Cymru, cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad – mae cyngor drwy e-bost/dros y ffôn hefyd ar gael.
As well as making sure you can maintain social distancing a booking system will offer a number of additional benefits to make sure your customers are satisfied and that you get the best returns on your produce.
26/05/2021 16:52:42In this one hour workshop, attendees will learn the ropes of Social Media best practise and how to use Facebook and Instagram to best reach customers and drive sales. The session will also include live reviews of attendees Social Media platforms and…
16/03/2021 16:37:40Have you considered a farm shop, a pop up café, a seasonal events calendar? How about an ‘Insta field’? The demand for photo worthy fields is on the rise, and with careful planning, establishing a pick your own will have the public flocking to your f…
24/02/2021 13:44:27Sunflowers can make a very attractive addition to wide range of businesses. They can be sold alongside a range of other products, and due to the long flowering season this can even stretch into the autumn to coincide with pumpkins in the run up to Ha…
16/11/2020 11:39:21While many of the covid-19 restrictions are being relaxed, it’s likely to continue to pose a challenge for growers for the foreseeable future – especially for those selling directly to customers for whom a high footfall on site is needed to achieve g…
30/09/2020 13:07:45Tyfu Cymru have launched regular Power Hour sessions for members of the Pumpkin Network. This article includes the full technical notes from the latest Power Hour in July.
03/09/2020 13:32:56Part two of our Pick your Own Factsheet focusing on Marketing and Top Technical Tips...
19/03/2020 12:28:00In our series of industry insights, we provide some background to the market, as well as some top tips on ensuring that your customer experience hits that important 5-star customer rating.
16/12/2019 13:38:55