Dydd Iau, 26 Mai 2022
Mae'r cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth wedi'i gynllunio i helpu newydd-ddyfodiaid i'r sector garddwriaeth yng Nghymru drwy annog sefydlu busnesau garddwriaeth masnachol newydd, naill ai fel elfen arallgyfeirio o fewn busnes amaethyddol sy'n bodoli eisoes, neu fel menter newydd annibynnol.
Wrth wneud hynny, bydd yn helpu i wireddu uchelgais Llywodraeth Cymru o Gymru fwy ffyniannus, gwyrdd a chyfartal.
https://llyw.cymru/grantiau-bach-dechrau-busnes-garddwriaeth-llyfryn-rheolau
Mae'r broses ymgeisio i’r cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth wedi’i rhannu’n ddau gam. Yn gyntaf, bydd gofyn ichi Ddatgan Diddordeb. Os caiff eich Datganiad ei ddewis, bydd angen i chi wneud cais llawn.
Bydd y ffenestr Datgan Diddordeb yn agor ar 25 Mai 2022 ac yn cau ar 29 Mehefin 2022.
Bydd grant o £3,000 ar gael i bob ymgeisydd.
Mae'r Grant Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth ar gael i unigolion neu fusnesau sydd am ymuno â'r sector garddwriaethol masnachol. Dyma nodau'r cynllun:
Bydd angen i ymgeiswyr, sy’n cael eu dewis ar ôl Datgan Diddordeb, brofi bod eu prosiectau'n gynigion ymarferol sydd â'r potensial i ddatblygu'n fusnesau cynaliadwy.