Pembrokeshire Chilli Farm, Uned 60, Ystâd Ddiwydiannol Honeyborough, SA73 1SE

Mae Pembrokeshire Chilli Farm, sydd wedi'i lleoli ger Neyland yn Sir Benfro, yn tyfu amrywiaeth eang o tsilis, er mwyn eu prosesu fel rhan o’u cynhyrchion eu hunain e.e. sawsiau ac ar gyfer cynhyrchwyr eraill.

Dechreuodd y busnes yn 2017 gydag Owen a Michelle Rosser yn tyfu tsilis mewn tŷ gwydr bach yn eu gardd gefn ond buan y sylweddolon nhw fod marchnad lawer mwy allan fan’na ac roedd angen iddyn nhw wella’u hymdrechion.

Maen nhw bellach yn cynhyrchu dros 2.5 tunnell fetrig o tsilis y flwyddyn, yn ychwanegol at gnydau sy’n cael eu tyfu’n benodol ar gyfer cwsmeriaid cyfanwerthol ac ar gyfer cynhyrchwyr bwyd masnachol eraill. Ar hyn o bryd mae ganddyn nhw bum twnnel poly mawr ac mae ganddyn nhw gynlluniau i dyfu'r busnes ymhellach er mwyn cynyddu allbwn cnydau a chynyddu eu hystod o gynhyrchion tsili gwerth ychwanegol.

‘Ar ddechrau ein taith fusnes doedd gan Michelle na minnau gefndir garddwriaethol felly dyma ble camodd Tyfu Cymru i mewn….’ Owen Rosser, Pembrokeshire Chilli Farm, Gorffennaf 2021 

Sut glywsoch chi am Tyfu Cymru?

Cawsom ychydig o broblemau ar y cychwyn gyda'n planhigion - roedd naint wedi dechrau amlygu ac yn Sioe Sir Benfro cyfarfûm ar hap â gŵr o'r enw Huw Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr cynnyrch Puffin Produce a oedd, gyda llaw, yn gyd-ddisgybl â fi yn yr ysgol. Esboniais ein bod yn cael ychydig broblemau gyda'n planhigion ac argymhellodd Tyfu Cymru fel rhywun allai ddarparu cyngor a hyfforddiant arbenigol wedi'i ariannu.

Pa gefnogaeth ydych chi wedi'i derbyn?

Trwy'r rhaglen, rydym wedi bod ar sawl ymweliad maes wedi'i ariannu â thyfwyr ffrwythau meddal yn lleol ac ar Benrhyn Gŵyr ac er nad ydyn nhw’n uniongyrchol gysylltiedig â thyfu Tsilis roedden nhw’n wych fel cyfrwng i gywain gwybodaeth yn ymwneud â thyfu yn gyffredinol. Cawsom gyfle hefyd i gwrdd ag arbenigwyr a’u holi ar sail un i un am broblemau roeddem ni’n eu cael.

Hefyd, cynhaliwyd llawer o weithdai ar-lein a fwynhawyd gennym ac ar hyn o bryd rydym yn cymryd rhan yn y Fforwm Arweinwyr Garddwriaeth sy'n ddefnyddiol; gallwn weld potensial ble y gallwn fynd â'r busnes a sut y gallwn ddatblygu, sy'n hynod ddefnyddiol pan yw rhywun mor gyfarwydd â bod yn ymarferol, a hynny o ddydd i ddydd. Roedd y dosbarth meistr cyntaf yn ardderchog ac yn ysbrydoledig iawn. Aeth Andrew Burgess, cyfarwyddwr a pherchennog Produce World ati i dynnu sylw at botensial yn y sector a'r camau a gymerwyd ganddynt i dyfu’n fusnes gwerth miliynau o bunnoedd.

Trwy'r gweithdai ar-lein rydym wedi cael goleuni pellach, gwerthfawr, i systemau Integredig Rheoli Clefydau Plâu (IPDM) a sut maen nhw'n gweithio. Roedd rheoli llyslau (llau planhigion) a gwiddon pry cop yn arbennig o berthnasol i ni. Yn ddiweddar, rwyf wedi mynychu gweminar ar blâu ac roedd yn ddefnyddiol gweld beth allwn ni ei wneud i atal plâu mewn cnydau - mae tsilis yn fagnetau i lau planhigion a dysgais gymaint am reoli plâu yn fiolegol ac mae hyn eisoes wedi'i gymhwyso i'r cnydau.

Trwy gymorth hyfforddi Tyfu Cymru a ariannwyd 100%, cawsom ymweliad un i un yn ddiweddar gan arbenigwr o ADAS. Roedd hyn yn wych; cerddodd drwy ein cnwd, cymerodd samplau o blanhigion oedd â phroblemau dail, rhoddodd gyngor ar brofi dŵr a gwerthoedd Ph, yna, ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, cawsom e-bost yn amlinellu'r hyn roeddem wedi'i drafod ynghyd â dolenni gwerthfawr i safleoedd a allai gynnig help pellach a chyngor.

Beth fu’n fwyaf defnyddiol yn eich barn chi?  

Y peth mwyaf defnyddiol am yr hyfforddiant fu'r wybodaeth drosglwyddadwy; does dim rhaid i hyn fod yn ymwneud â tsilis. Rydym wedi dysgu llawer iawn am ddyfrhau a systemau dyfrhau, bwyd anifeiliaid, ble i brynu cit ac mae'r cyfle i rwydweithio â thyfwyr eraill hefyd wedi bod yn gyfle gwych.

Mae'r hyfforddiant a'r gefnogaeth yn hawdd ac yn gyflym i'w cyrchu ac oherwydd hyn gellir canfod problemau ac ymdrin â nhw yn gyflym gyda chefnogaeth arbenigwyr cymwys.

Beth yw canlyniad cefnogaeth ac effaith TC ar eich busnes - yn enwedig o ran yr ochr dyfu?

Eleni mae gennym raglen IPDM fer, lle’r ydym yn defnyddio rheolyddion biolegol i leihau plâu ac felly'n cynyddu ein cynnyrch. Mae Guy o ADAS wedi ein cynghori ar beth i'w ddefnyddio a ble i'w cael. Yn bwysicaf oll, rydym yn teimlo bod y gefnogaeth wedi rhoi hyder inni symud ymlaen, gan wybod bod yna gyfoeth o brofiad a chymorth sydd ar gael ar ben arall galwad ffôn neu neges e-bost.

Mae'r camau nesaf ar gyfer y busnes yn cynnwys mynd trwy achrediad SALSA, a fydd yn datgloi drysau gyda chyfanwerthwyr a chyflenwyr. O ran tyfu, y flwyddyn nesaf byddwn yn cydgrynhoi dysgu a thyfu, cynyddu cnydau ac allbynnau, ymchwilio i ehangu ar gyfer mwy o dwneli poly ac rydym bob amser yn sganio i weld pa gnydau eraill y gellid eu tyfu, cnydau allai ychwanegu gwerth i'n busnes presennol.

Ydych chi wedi gallu gwneud unrhyw beth na fyddai wedi bod yn bosibl heb hyfforddiant/cefnogaeth TC?

Y cyfan uchod mewn gwirionedd!

Fel busnes eithaf newydd, byddai wedi bod yn her dod o hyd i’r arbenigwyr ym maes garddwriaeth fasnachol, ac yna ariannu'r hyfforddiant. Mae Tyfu Cymru wedi rhoi mynediad inni i rwydwaith o arbenigwyr, tyfwyr eraill a hyfforddiant ymarferol sydd wedi galluogi'r busnes i ddatblygu.

Am fwy o wybodaeth, ewch i Pembrokeshirechillifarm.com