Cnwd pwysig i ystyried ei dyfu fel cnwd gwarchodedig yw berwr y dŵr. Cnwd cymharol hawdd i’w dyfu sy’n rhoi elw gwerth uchel a buddion iechyd pwysig i ddefnyddwyr. Nod y weminar hon yw tynnu sylw at fuddion iechyd berwr y dŵr ac, yn ei dro, bydd yn rhoi’r wybodaeth i chi farchnata eich cynnyrch yn effeithiol.
Bydd y weminar yn cynnwys:
- O safbwynt iechyd a maeth, nod y weminar yw cyflwyno’r cyfoeth o lenyddiaeth wyddonol sydd ar gael i gefnogi’r priodoleddau a geir o fwyta berwr y dŵr yn rheolaidd.
- Bydd y weminar yn cyflwyno’r buddion iechyd o fwyta berwr y dŵr, o’i broffil maethol i’w gyfansoddion bioactif unigryw.
- Bydd y weminar yn rhoi mewnwelediad ar y rheoliadau maethol a hawlio iechyd y gellir eu defnyddio i hyrwyddo’r defnydd o ferwr y dŵr.
- Cyflwynir gan Natalie Rouse, maethegydd ac ymchwilydd maeth (BIC Innovation a NutriWales).
Pam tyfu Berwr y Dŵr? Deall y buddion iechyd
Dydd Iau y 23ain o Mawrth 10:00yb-10:30yb | Zoom
![Watercress.jpg (1)](/media/2015/watercress.jpg?anchor=center&mode=crop&width=1140&height=400&rnd=133195463720000000)