Call of the Wild fydd yn arwain yr hyfforddiant
Uchafswm o 8 person ym mhob sesiwnMae’r cwrs hwn yn sylfaen ar gyfer materion allweddol sy'n ymwneud ag Iechyd a Diogelwch. Mae'n cyflwyno'r modiwlau isod, gan roi'r hanfodion i'r dysgwyr cyn mynd ati i archwilio hyfforddiant mwy technegol a manwl.
Mae'n darparu'r wybodaeth graidd sydd ei hangen ar eich gweithwyr i gadw'n ddiogel ac yn ymgorffori dealltwriaeth a thechnegau da i gadw eraill yn ddiogel hefyd.
Strwythur y cwrs
Cyflwyniad i Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
Cyfarpar Diogelu Personol
Damweiniau ac afiechyd
Iechyd, diogelwch a lles yn y gweithle
Llithro, baglu a chwympo
Cerbydau yn y Gwaith
Cyfraith Iechyd a Diogelwch
Diogelwch Tân
Asesu Risg
Cymorth Cyntaf
Sylweddau Peryglus
Cyfarpar Gwaith
Trydan
Iechyd Galwedigaethol
Sŵn a Dirgryndod
Ergonomeg a chynllunio gweithfannau
Codi a Chario
Gweithio ar Uchder
Sut mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno
Ar-lein drwy Zoom, mae'r cwrs hwn yn seiliedig ar theori yn bennaf, ond mae'n cynnwys llawer o ymarferion a gemau. Rydym yn defnyddio trafodaethau ac astudiaethau achos diweddar i ddod â'r dysgu'n fyw.
Hyd y cwrs hwn yw 3 Awr
Uchafswm o 8 person ym mhob sesiwn
Cwrs Iechyd a Diogelwch Sylfaenol Ar-lein
17th May 2021, 9am-12pm | Zoom
