Little Welsh, a sefydlwyd yn wreiddiol yn 2014, yn deillio o angerdd Jo am bopeth sy’n ymwneud â bwyd. Mae fy nghawsiau cyntaf yn cynnwys caws Cheddar Aeddfed, Caerffili a chaws math Gouda. Maent yn cael eu gwneud â llaw yn y dull traddodiadol ac maent yn addas ar gyfer llysieuwyr. Mae’r cawsiau yn cael eu gwasgu ac yna eu gadael i aeddfedu, rhai ohonynt yn eu crawen naturiol eu hunain, o dan y ddaear yn fy ogof gaws pwrpasol yn seler llety Gwely a Brecwast Hope Mountain. Ers hynny, mae Jo wedi dechrau cynnig hyfforddiant Iechyd a Diogelwch. Yn gwneud defnydd da o’i gwybodaeth helaeth a’i blynyddoedd o brofiad o weithio yn y diwydiant. Fel rhan o hynny, mae Jo hefyd wedi trefnu nifer o ddosbarthiadau coginio a gweithdai hamddenol i weddu pob gallu, o gyfleuster sydd wedi’i adeiladu’n bwrpasol yn y llety Gwely a Brecwast.