Dechreuodd Laura weithio gyda Lantra ym mis Rhagfyr 2017 fel Cydlynydd Cyllid. Mae’n gyfrifol am y crynodebau ariannol misol yn ogystal â’r rhagolygon ar gyfer pob un o’r prosiectau yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae gan Laura 20 mlynedd o brofiad o weithio yn y diwydiant cyllid a chyn iddi ymuno â Lantra bu Laura yn gweithio i amrediad eang o sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae Laura yn arbenigo mewn sefydlu prosesau ariannol newydd a chydbwyso cysoniadau y mae wedi’u cynnal i nifer ogwmnïau gan gynnwys Gwasanaeth Carchardai EM, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Swyddfa Gartref.
Yn ei hamser hamdden Laura yw trefnydd yr arddangosfa Bwyd a Diod yn y Neuadd Fwyd ar ran Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn y tri digwyddiad blaenllaw a gynhelir ganddynt. Mae hyn yn cynnwys recriwtio a rheoli arddangoswyr, cysylltu gyda chontractwyr, Iechyd yr Amgylchedd, Llywodraeth Cymru a’r Wasg.